LOCATION / LLEOLIAD

 
 

Hen Felin stands in its own grounds in a wonderful tranquil spot.

You can relax, read a book in the big swing chair under the tree, enjoy a glass of wine on the patio which has cool concrete garden furniture and make some wonderful memories with family and friends.

The cottage is an eight minute drive from Aberdaron, a small village right at the tip of the Llyn-Peninsula. It has two great pubs, a few shops and a long lovely beach.

Abersoch is just under ten miles away. It’s well known for its clothing shops, restaurants and small bars.

Ty Coch at Porthdinllaen, which has been voted one of the best beach bars in the world, is also just a few miles away and definitely worth a visit.

There are some stunning beaches on the Llyn Peninsula, our favourites include:

  • Penllech / Porth Oer / Porth Neigwl / Porth Towyn

Porth Towyn, Tudweiliog is where the owners of Hen Felin live. The long golden sandy beach here is absolutely gorgeous. This is also the home of Cwt Tatws, the lifestyle store where most of the furniture and accessories at Hen Felin have been sourced. It’s a fifteen minute drive from Hen Felin, and guests who stay at the cottage can enjoy a fabulous discount off products from the store during their stay.

If you enjoy walking, the coastal path with its majestic views is a must. Keen golfers will also enjoy a round or two at the Nefyn course, and they might even have the seals as spectators. Sailing, surfing, body boarding and chilling, it’s all so easy in this wonderful part of Wales.

 

 

Mae’r Hen Felin ar ei dir ei hun ac mewn lleoliad godidog a thawel.

Gallwch ymlacio, darllen llyfr yn y siglen o dan y goeden, mwynhau gwydriad o win ar y patio sydd â dodrefn concrid cyfoes a chreu atgofion melys gyda theulu a ffrindiau.

Mae pentref Aberdaron ym mhen pellaf Pen Llŷn a gellir mynd yno mewn wyth munud yn y car. Ceir dwy dafarn da, ychydig o siopa a thraeth hir hyfryd.

Cwta ddeg milltir i ffwrdd mae Abersoch. Mae’n adnabyddus am ei siopau dillad, bwytai ac ambell i far bach.

Ychydig filltiroedd i ffwrdd mae Tŷ Coch ym Mhorthdinllaen, sydd wedi ei enwi’n un o’r tafarnau glan y môr gorau yn y byd. 

Mae traethau ardderchog ym Mhen Llŷn, ymhlith ein ffefrynnau mae:

  • Penllech / Porth Oer / Porth Neigwl / Porth Towyn

Mae perchnogion Hen Felin yn byw ym Mhorth Towyn, Tudweiliog. Mae’r traeth hir euraidd yma yn hollol hyfryd. Yma hefyd mae cartref Cwt Tatws, siop nwyddau i’r cartref, ac o fan hyn y daw’r rhan fwyaf o ddodrefn ac ategolion Hen Felin. Yn ystod eu harhosiad mae gwesteion sy’n aros yn y bwthyn yn gallu mwynhau disgownt da ar brisiau’r siop.

Os mai cerdded sy’n mynd a’ch bryd, mae llwybr yr arfordir a’i olygfeydd godidog yno i chi ei werthfawrogi. Bydd y golffwyr yn sicr o fwynhau rownd neu ddwy ar y cwrs yn Nefyn, ac efallai y bydd y morloi yno’n eu gwylio’n chwarae. Hwylio, syrffio, corff-fyrddio ac ymlacio, mae’r cwbl mor hawdd yn y rhan hyfryd yma o’r byd.